N'ad im fodloni ar ryw rith
N'âd fi foddloni ar ryw rith

N'ad im fodloni ar ryw rith
  O grefydd, heb ei grym,
Ond gwir adnabod Iesu Grist
  Yn fywyd annwyl im'.

Dy gariad cryf rho'n f'ysbryd gwan
  I ganlyn ar dy ôl;
Na chaffwyf drigfa mewn un man
  Ond yn dy gynnes gôl.

Goleuni'r nef fo'n gymorth im',
  I'm tywys yn y blaen;
Rhag imi droi oddi ar y ffordd
  Bydd imi'n golofn dân.
N'ad im fodloni :: N'âd fi foddloni
Dy gariad cryf rho'n :: Rho'th gariad cryf yn

Dafydd Morris 1744-91

Tonau [MC 8686]:
Bangor (alaw Gymreig)
Blackbourne (Fesch)
Caithness (Salmydd Ysgotaidd 1635)
Irish (Hymns and Sacred Poems 1749)
St Magnus (Jeremiah Clarke c.1673-1707)
St Mary (Salmydd E Prys 1621)
St Nicholas (M Green)
Saron (Thomas Hughes 1870-1910)

gwelir:
  Mae brodyr imi aeth y'mlaen
  Mi ymddiriedaf yn ei Air
  Plant ydym eto dan ein hoed
  Tystiolaeth gadarn Brenin nef

Do no let me be satisfied with any illusion
  Of faith, without its force,
But the true knowledge of Jesus Christ
  As dear life to me.

Thy strong love put in my weak spirit
  To follow after thee;
I will not have any dwelling anywhere
  But in thy warm bosom.

The light of heaven be a help to me,
  To lead me forwards;
Lest I turn from the way
  Let there be for me a pillar of fire.
::
::

tr. 2011 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~